Welcome to Swansea University Mountaineering Club
Croeso i Glwb Mynydda Prifysgol Abertawe
SUMC is a mountaineering club for students of Swansea University. We welcome all abilities, those who love the outdoors and those that want to learn the ropes indoors. We take day trips every weekend (weather allowing, it's Wales) to places around the Gower and full weekends away around the UK. Mostly social climbing but if you have a competitive side there are many friendly competitions nearby and the national university competition BUCS in Sheffield. We have socials every week, alcoholic and non, where you can get to know everyone and have a great time!
Join our Facebook group for all updates and event details: facebook.com/groups/swanseamountaineers. This is also where you can find our club consitution.
Check out our Instagram: @s.u.m.c
Monday: Indoor sport climbing at Dynamic Rock (Meet at Wales National Pool 18:00 and Fabian Way Bus stop at Bay Campus 18:15) 18:00-22:00
Wednesday / Thursday: Socials, including Tight and Bright, Great SUMC Bake Off, SUMC Olympics, Christmas Meal, and Charity Shop.
Wednesday / Thursday: Bouldering sessions at Flashpoint.
Saturday/Sunday: Outdoor day trips to locations around the Gower.
General: Members climb everyday and offer lifts to those who want to join.
We can provide you with all the gear you need to get started, though bring your own if you have it! For climbing, wear something you can easily move in and bring water / snacks. We post checklists before the day trips so you know what to bring. If you have any questions, we can be reached at any of our socials.
Flashpoint and The Hangar, our local bouldering gyms, will have competitions throughout the year that are open to everyone. BUCS is held in Sheffield every February. Tryouts for the team will take place throughout the first semester.
Our weekend trips will take you all over the country, with trips planned to Pembrokeshire, Snowdonia, the Peak District, and Wye Valley. During Easter we are going to Malaga for a week! After summer exams we have one last trip that has ranged from camping in the Lake District to Cornwall.
Croeso i Glwb Mynydda Prifysgol Abertawe
Pob math o ddringo tu fewn a thu allan i bob lefel o allu!
Mae SUMC yn glwb mynydda ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Rydyn ni'n croesawu pob lefel o allu, y rhai sy'n caru'r awyr agored a'r rhai sydd eisiau dysgu'r pethau sylfaenol y tu mewn. Rydyn ni'n mynd ar dripiau dydd bob penwythnos (os yw'r tywydd yn caniatáu, mae'n Gymru!) i lefydd o amgylch y Gwyr a phenwythnosau llawn i ffwrdd o amgylch y DU. Rydyn ni’n dringo’n gymdeithasol yn bennaf ond os oes gennyt ti ochr gystadleuol mae yna lawer o gystadlaethau cyfeillgar yn ogystal â BUCS, cystadleuaeth brifysgolion genedlaethol, yn Sheffield. Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau cymdeithasol bob wythnos, rhai gydag alcohol a rhai hebddo, lle gallwch ddod i adnabod pawb a chael amser gwych! Am ragor o wybodaeth, cer i wefan SUMC.
Ymuna â’n grwp Facebook am ddiweddariadau a manylion am ddigwyddiadau facebook.com/groups/swanseamountaineers. Dyma hefyd lle gallwch chi ddod o hyd i gyfansoddiad ein clwb.
Dilyna ni ar Instagram @s.u.m.c
Dydd Llun: Craig Ddeinamig (Cwrdd ym Mhwll Cenedlaethol Cymru am 18:00 a safle bws Ffordd Fabian ar Gampws y Bae am 18:10) 18:00-22:00
Dydd Mercher / Dydd Iau: Digwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys Tight and Bright, Great SUMC Bake Off, Gemau Olympaidd SUMC, Cinio Nadolig, a Siop Elusennol.
Dydd Mercher / Dydd Iau: Sesiynau bowldro yn Flashpoint.
Dydd Sadwrn/Sul: Teithiau dydd tu allan mewn lleoliadau o gwmpas y Gwyr
Cyffredinol: Mae aelodau'n dringo bob dydd ac yn cynnig lifft i'r rhai sydd am ymuno.
Gallwn ddarparu'r holl offer sydd eu hangen arnoch i ddechrau, ond dewch â'ch offer eich hun os oes gennych chi! Ar gyfer dringo, gwisgwch rywbeth y gallwch symud yn hawdd ynddo a dewch â dwr / byrbrydau. Rydyn ni'n postio rhestrau gwirio cyn y teithiau dydd fel eich bod chi'n gwybod beth i ddod gyda chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gellir ein cyrraedd yn unrhyw un o'n digwyddiadau cymdeithasol.
Bydd gan Flashpoint a The Hangar, ein campfeydd bowldro lleol, gystadlaethau trwy gydol y flwyddyn sy'n agored i bawb. Cynhelir BUCS yn Sheffield bob mis Chwefror. Bydd treialon ar gyfer y tîm yn digwydd trwy gydol y semester cyntaf.
Bydd ein teithiau penwythnos yn mynd â chi ledled y wlad, gyda theithiau wedi'u cynllunio i Sir Benfro, Eryri, y Peak District, a Dyffryn Gwy. Yn ystod y Pasg byddwn yn mynd dramor am wythnos, cyrchfan i'w benderfynu! Ar ôl arholiadau’r haf mae gennym ni un daith olaf sydd wedi amrywio o wersylla yn Ardal y Llynnoedd i Gernyw.