Mae enwebiadau ar gyfer Etholiadau Gwanwyn UM ar gau... felly beth nawr?
Mae ymgyrchu gweithredol wedi cychwyn a chyn bo hir, bydd gennyt ti gyfle i bleidleisio dros y bobl hoffet TI arwain myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar gyfer y flwyddyn 2023/24!
Bydd pleidleisio ar agor rhwng 11am ar Ddydd Gwener ac 1pm y Dydd Iau canlynol (9fed). Ddim yn siwr sut i bleidleisio eto? Hustyngau yw’r cyfle delfrydol i wneud y penderfyniad.
Beth yw ‘Hustyngau’ ‘te?
Dyma ein sesiynau holi blynyddol lle fydd cyfle gennyt ti i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennyt ti am faniffestos neu gynlluniau’r ymgeiswyr am eu darpar rolau. Eleni, rydyn ni wedi rhannu’r hustyngau i ddau sesiwn. Dyma’r holl fanylion sydd eu hangen am y sesiynau sydd i ddod:
Hustyngau 1:
-
Dydd Mercher 1af Mawrth
-
Dechrau am 19:00 – 21:00
-
Campws y Bae, Peirianneg Ganolog B001
-
Ymgeiswyr a fydd yn bresennol: Llywydd, Addysg, Cymdeithasau a Gwasanaethau
Hustyngau 2:
-
Dydd Iau 2il Mawrth
-
Dechrau am 19:00 – 21:00
-
Campws Singleton, Darlithfa Faraday
-
Ymgeiswyr a fydd yn bresennol: Lles, Cymraeg, Chwaraeon
Awgrym: Rydyn ni’n argymell darllen maniffestos yr ymgeiswyr ymlaen llaw er mwyn paratoi cwestiynau ar gyfer y sesiynau!
Os wyt ti’n awyddus iawn ac wedi paratoi cwestiynau yn barod, llenwa’r ffurflen nawr drwy glicio yma.
Gwelwn ni ti yn y sesiwn hustyngau!
|