Am y flwyddyn gyntaf, rydyn ni’n lansio ein Cynrychiolwyr Cymraeg!
Dyma dy gyfle i gynrychioli dy gyd-fyfyrwyr, hybu’r iaith Gymraeg, a gweithio ochr yn ochr â staff Cymraeg y Brifysgol i wella profiad myfyrwyr yn Abertawe!
Mae dy Swyddog Materion Cymraeg, Carys Dukes, wedi gweithio’n agos gyda’r Brifysgol i lansio system newydd o Gynrychiolwyr Cymraeg, i gynrychioli lleisiau myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.
Mae’n ffordd wych i roi hwb i dy CV, cwrdd â ffrindiau newydd a hyd yn oed cael y cyfle i ennill bwrsari!
Mae ceisiadau bellach ar agor ac yn cau ar y 24ain o Ionawr.
Cliciwch yma am fwy!