The Students’ Union and Swansea University are consulting with you on a Race Equality Action Plan.
Race Equality at Swansea University
The Students’ Union and Swansea University are consulting with you on a Race Equality Action Plan. We would welcome participation from all students, but particularly from our minority ethnic or racialised student groups.
The knowledge and understanding gained from the consultation will be used to put in place a robust action plan to deliver on race equality for both staff and students at Swansea University over the next few years. Swansea University and the Students’ Union acknowledge the deep-rooted issue of racial inequalities present in our society today. We are determined to ensure the University’s actions on race equality are directly responsive to the needs of our students.
We are running focus groups on Tuesday 29th March 2022 and Friday 1st April 2022 to:
1. Hear about your experiences of being at Swansea University and
2. Learn how to make those experiences better in terms of race equality
The focus groups on the action plan are opportunities to speak about your experience in a safe, non-judgemental way that will effect change in the institution, feed into the action plan, and make a difference to the experiences of our racially minoritised students. Your voice matters- yes, you!
The focus groups will be recorded for internal use only, and findings will be detailed in a final report. Please note, all comments are confidential, and no comments or details will be attributed to any individual in the final report.
Please register your interest to attend ONE online (Zoom) focus group via the links below- Participants will receive a £20 One4All gift card.
Cydraddoldeb Hiliol ym Mhrifysgol Abertawe
Mae Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Abertawe yn ymgynghori â chi ynghylch Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Bydden ni’n croesawu cyfranogiad pob myfyriwr, ond yn enwedig ein myfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol neu hil-ddiffiniedig.
Bydd yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth a ddatblygir yn sgîl yr ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i roi cynllun gweithredu cadarn ar waith er mwyn cyflawni cydraddoldeb hiliol ar gyfer y staff a’r myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe dros y blynyddoedd nesaf. Mae Prifysgol Abertawe ac Undeb y Myfyrwyr yn cydnabod yr anghydraddoldebau hiliol dwfn sydd yn ein cymdeithas heddiw. Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod camau gweithredu’r Brifysgol ynghylch cydraddoldeb hiliol yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion ein myfyrwyr.
Byddwn ni’n cynnal grwpiau ffocws ddydd Mawrth 29 Mawrth 2022 a dydd Gwener 1 Ebrill 2022 er mwyn:
1. Clywed am eich profiadau chi ym Mhrifysgol Abertawe a
2. Dysgu sut i wella’r profiadau hyn o safbwynt cydraddoldeb hiliol
Bydd grwpiau ffocws y cynllun gweithredu yn gyfle i chi sôn am eich profiadau mewn modd diogel, anfeirniadol a fydd yn arwain at newid yn y sefydliad, yn cyfrannu at y cynllun gweithredu, ac yn gwneud gwahaniaeth i brofiadau ein myfyrwyr sy’n perthyn i leiafrifoedd hil. Mae eich llais chi yn bwysig!
Bydd y grwpiau ffocws yn cael eu recordio at ddefnydd mewnol yn unig, a manylir ar y canfyddiadau mewn adroddiad terfynol. Nodwch fod yr holl sylwadau yn gyfrinachol ac na chaiff sylwadau na manylion eu priodoli i’r un unigolyn yn yr adroddiad terfynol.
Defnyddiwch y dolenni isod i gofrestru eich diddordeb mewn dod i UN grwp ffocws ar-lein (Zoom) trwy’r dolenni isod – Bydd cyfranogwyr yn cael carden rhodd One4All gwerth £20.