Services Update
The SU Offices will be closed over the spring break, we will be closing on Wednesday the 31st March and will reopen on Thursday 15th April. If you need us during the break, you can still message us via the SU Facebook or Instagram pages, and we’ll get back to you as soon as we can.
Fulton Outfitters Online will still be taking orders over the break, however, any orders placed after 31st March will be processed and shipped after the SU reopens on the 15th April.
Our Advice and Support Centre will be closed during the break, but you can still get in touch with the team by email via advice@swansea-union.co.uk, which they will check periodically.
If you have any matters concerning societies, sports, Reps, opportunities, and volunteering, or SU Officers, please drop student.voice@swansea-union.co.uk an email, and they’ll do their best to help you out.
We appreciate that this term hasn’t been what we expected it to be like, but we’re so excited to welcome you back next semester when hopefully we can all enjoy a bit of Swansea sun.
Term One 2020/21 Achievements
Term Two has come to an end and it’s been a busy few months! To round off the semester, we’ve asked the SU Elected Officers to describe what they’ve been up to, here’s what they had to say….
Ffion Davies - President
'HAPPY END OF TERM!! I'm sure many of you, like me will be thinking where has this term gone to, it has sped by! From starting the term with a lot of uncertainty, it looks as if finally, we can see some light at the end of the tunnel, and hopefully we will be welcoming you all back to campus. This term has consisted of a lot of different projects, but I'll just touch on a few.
After the success of the Dockyard, and feedback from students wanting space to socialise, take a break from studying and have a nice place to eat their lunch/get a takeaway coffee, the SU wrote a proposal which was taken to the Senior Leadership Team in the University. This paper proposed two outdoor fair weather social spaces on both Singleton and Bay Campus, which will serve food and drink and will be an inviting space for students to be students. We were successful with the proposal and have received £60k from the University to get these spaces created! We cannot wait to see you all having a good time, having a laugh and enjoying these spaces.
As well as this, we are continuing to raise the subject of rent rebates with the University. With a change in guidance from the Welsh Government, we may see some students returning to University accommodation. However, many students will not want to return as they may not feel comfortable to, or their learning & teaching is completely online. We are pushing for an extension in rent rebates until the end of the academic year!
Finally, looking to the new academic year, we are putting plans in place and investing into some of our services thanks to the £50k given to all SU's in Wales. Upon return you'll be able to make your own peanut butter at Root Zero, and also, we'll have a nut milk machine and a juicer!
Thank you for your support & engagement over the past few couple of tough months! Please continue to feedback to us, and if you need any support or advice the Students' Union is always here for you!
Katie Phillips – Welsh Affairs Officer
I hope you all take some well-earned time off over the Easter break, I know I will!
I have worked on a wide range of projects this term which you can read about in more detail on my monthly updates, including Veganuary, Food Waste Action Week, St Dwynwen's Day, Welsh Music Day, St David's Day, Allyship workshops, Senedd elections workshops, Ramp Your Voice, Sustainability Policy and many more.
I launched the Welsh Wednesdays podcast which has discussed topics including sustainable fashion, self-love, mental health, and career tips. I submitted the motion 'Mandatory sexual consent education for all students in further education and higher education' to the NUS Wales conference, which was passed and will be implemented into NUS' strategy.
I have continued to ensure the student voice is heard in countless meetings with key stakeholders in the university. I was elected as President in the SU elections and am looking forward to representing the student voice for another year. Thank you for your continued support over these tough few months, and I look forward to brighter days ahead.
Georgia Smith – Sports Officer
As Term two draws to a close I wanted to take this opportunity in my update to say a huge thank you to all our sports club committees who have managed to stay positive, motivated and engaged despite the limitations on sport and physical activity this term. Clubs found new and inventive ways to interact with their members, from zoom social and fitness classes, to charity fundraisers and fitness challenges we really have managed to maintain a sense of community among sport teams at Swansea through this difficult and isolating term!
In a bid to spread the positive work our clubs have been doing this term I created the SUSU Sport Good newsletter which has been shared each month to all our Sport Swansea members. The newsletter shined the spotlight on all the great work clubs have been doing and show the student body that club activity is still going ahead!
The mental health of many students has been put under huge strain by the pandemic. With the help of Sport Swansea, I have facilitated weekly student minds mental health in sport workshops for our sport teams. The workshop empowered the students to improve their understanding of mental health and wellbeing, increase the participants skills to support a teammate experiencing difficulties and establish a culture that promotes positive mental health in our institution.
With the help of the staff at the Students’ Union I was able to organise the first online emotional resilience training open to all students at Swansea University, the workshop took place over two weeks and received positive feedback!
International Women's Week campaign was incredibly important to me. With the help of the female student athletes at Swansea University I was able to run a social media campaign “Celebrating Swansea University female athletes”, where we displayed the achievements and advice of our female athletes on our union social media channels and eBooks on the SU website. I also had the amazing opportunity to take part in the university IWD webinar, “A level playing field”; where I was able to talk about the challenges women in sport and women in politics face currently, with panellists including Baroness Tanni Grey-Thompson DBE.
Working collaboratively with the union and university I have been a part of an internal review of our sporting structure at university and gave my feedback. I have played an instrumental role in the planning and delivery of the Sport Swansea Active University strategy collaborating with different departments and organisation across the institution. The work on the strategy is ongoing and will underpin all my work as sports officer. I also have supported the university in holding a place on the stakeholder interview panel to help represent the student voice and represent the students union in appointing a new strategic sports manager at the university.
To summarise my round up I have been in continuous contact with sports committees and Sport Swansea this term. I took part in the SU elections where I managed to win and thank the student body for re-electing me for a second year on the job. Therefore, I will not let you all down and will keep delivering on my promises and being a hardworking member of staff for you our sporting students! Most importantly let's get back to playing sport next term!!
Alpha Evans – General Secretary
During this term, I have helped with the Student Forum and with the AGM. I also discussed ideas for St. David's Day celebrations with Katie, the Welsh language policy officers and the digital marketing team.
Yn ystod y tymor hwn, rwyf wedi cynorthwyo gyda'r Fforwm Myfyrwyr a gyda Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb. Bues hefyd yn trafod syniadau am ddathliadau Dydd Gwyl Dewi gyda Katie, Swyddogion Polisi Iaith Gymraeg y brifysgol a thîm marchnata'r brifysgol.
Kieran Bason – LGBT+ Singleton Officer
This term I’ve been working on the LGBTQ+ History Month campaign with some other PTO’s as well as Georgia-Rose and Liza. Following the elections I attended the NUS liberation conference and now helping Georgia-Rose with a Trans Awareness campaign starting Wednesday 31st with “international day of trans visibility” whilst doing this I have been making small steps to improve gender-neutral toilet facilities across the educational buildings on Singleton campus and plan to further this in the coming weeks/months
Diweddariad Gwasanaethau
Bydd Swyddfeydd UM ar gau dros wyliau'r Pasg. Byddwn yn cau ar Ddydd Mercher 31ain Mawrth ac yn ailagor ar Ddydd Iau 15fed Ebrill. Os wyt ti ein hangen ni yn ystod yr egwyl, gallet ti anfon neges atom trwy dudalennau Facebook neu Instagram UM, a byddwn yn cysylltu â ti cyn gynted ag y gallwn.
Bydd Fulton Outfitters Online yn dal i gymryd archebion dros yr egwyl, ond bydd unrhyw archebion a osodir ar ôl 31ain Mawrth yn cael eu prosesu a'u cludo ar ôl i'r UM ailagor ar 15fed Ebrill.
Bydd ein Canolfan Gyngor a Chefnogaeth ar gau yn ystod yr egwyl, ond gallet ti barhau i gysylltu â'r tîm trwy e-bostio advice@swansea-union.co.uk, y byddant yn eu darllen o bryd i'w gilydd.
Os oes gennyt ti unrhyw broblemau yn ymwneud â chymdeithasau, chwaraeon, Cynrychiolwyr, cyfleoedd, a gwirfoddoli, neu Swyddogion UM, anfona e-bost at student.voice@swansea-union.co.uk, a byddant yn gwneud eu gorau i dy helpu.
Rydym yn gwerthfawrogi nad oedd y tymor hwn beth oedden ni’n disgwyl, ond rydyn ni mor gyffrous i dy groesawu yn ôl semester nesaf pan gobeithio y gallwn ni gyd fwynhau bach o haul yn Abertawe.
Llwyddiannau 2021
Mae Tymor Dau wedi dod i ben ac mae wedi bod yn ychydig o fisoedd prysur! I dod i’r semester i ben, rydyn ni wedi gofyn i Swyddogion Etholedig UM ddisgrifio’r hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud, dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud….
Ffion Davies - Llywydd
'DIWEDD TYMOR HAPUS!! Rwy'n siwr y bydd llawer ohonoch chi, fel fi, yn meddwl i ble mae'r tymor hwn wedi mynd, mae wedi hedfan! O ddechrau'r tymor gyda llawer o ansicrwydd, mae'n edrych fel pe bai o'r diwedd, gallwn weld rhywfaint o olau ar ddiwedd y twnnel, a gobeithio y byddwn yn eich croesawu chi i gyd yn ôl i'r campws. Mae'r tymor hwn wedi cynnwys llawer o wahanol brosiectau, ond byddaf yn crybwyll ychydig yn unig.
Ar ôl llwyddiant y Dockyard, ac adborth gan fyfyrwyr sydd eisiau rhywle i gymdeithasu, cymryd egwyl o astudio a chael lle braf i fwyta eu cinio/cael coffi, ysgrifennodd UM gynnig a aeth at Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn y Brifysgol. Roedd y papur hwn yn cynnig dau le cymdeithasol tywydd teg awyr agored ar Gampws Singleton a Champws y Bae, a fydd yn gweini bwyd a diod ac a fydd yn ofod deniadol i fyfyrwyr fod yn fyfyrwyr. Roeddem yn llwyddiannus gyda'r cynnig ac wedi derbyn £60k gan y Brifysgol i greu'r lleoedd hyn! Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd yn cael amser da, yn chwerthin ac yn mwynhau'r lleoedd hyn.
Yn ogystal â hyn, rydym yn parhau i godi pwnc ad-daliadau rhent gyda'r Brifysgol. Gyda newid yn y canllawiau gan Lywodraeth Cymru, efallai y gwelwn rai myfyrwyr yn dychwelyd i lety’r Brifysgol. Fodd bynnag, ni fydd llawer o fyfyrwyr eisiau dychwelyd oherwydd efallai nad ydyn nhw'n teimlo'n gyffyrddus, neu mae eu dysgu a'u haddysgu yn hollol ar-lein. Rydym yn pwyso am estyniad mewn ad-daliadau rhent tan ddiwedd y flwyddyn academaidd!
Yn olaf, wrth edrych tuag at y flwyddyn academaidd newydd, rydym yn rhoi cynlluniau ar waith ac yn buddsoddi yn rhai o'n gwasanaethau diolch i'r £50k a roddwyd i bob UM yng Nghymru. Ar ôl dychwelyd byddwch yn gallu gwneud eich menyn cnau eich hun yn Root Zero, a hefyd, bydd gennym beiriant llaeth cnau a pheiriant sudd!
Diolch am eich cefnogaeth a'ch ymgysylltiad dros yr ychydig fisoedd anodd diwethaf! Parhewch i roi adborth i ni, ac os oes angen unrhyw gefnogaeth neu gyngor arnoch mae Undeb y Myfyrwyr wastad amser yma i chi!
Katie Phillips – Swyddog Materion Cymraeg
Gobeithio y byddwch chi i gyd yn cymryd egwyl haeddiannol dros wyliau'r Pasg, byddaf i’n cymryd egwyl yn sicr!
Rydw i wedi gweithio ar ystod eang o brosiectau y tymor hwn, gan gynnwys Veganuary, Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd, Dydd Santes Dwynwen, Diwrnod Cerddoriaeth Gymru, Dydd Gwyl Dewi, gweithdai cynghreiriaid, gweithdai etholiadau’r Senedd, Dweud eich Dweud, Polisi Cynaliadwyedd a llawer mwy. Gallwch chi ddarllen amdanynt yn fanylach ar fy niweddariadau misol.
Lansiais bodlediad Welsh Wednesdays sydd wedi trafod pynciau gan gynnwys ffasiwn gynaliadwy, hunan-gariad, iechyd meddwl, ac awgrymiadau gyrfaoedd. Cyflwynais y cynnig 'Addysg cydsyniad rhywiol gorfodol i bob myfyriwr mewn addysg bellach ac addysg uwch' i gynhadledd UCM Cymru, a basiwyd ac a fydd yn cael ei weithredu yn strategaeth UCM.
Rydw i wedi parhau i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed mewn cyfarfodydd dirifedi gyda rhanddeiliaid allweddol yn y Brifysgol. Cefais fy ethol yn Llywydd yn etholiadau UM ac rwy'n edrych ymlaen at gynrychioli lleisiau myfyrwyr am flwyddyn arall. Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus dros yr ychydig fisoedd anodd hyn, ac edrychaf ymlaen at ddyddiau mwy disglair o'n blaenau.
Georgia Smith – Swyddog Chwaraeon
Wrth i’r ail dymor ddod i ben roeddwn i eisiau bachu ar y cyfle hwn yn fy niweddariad i ddweud diolch enfawr i'n holl bwyllgorau clybiau chwaraeon sydd wedi llwyddo i aros yn gadarnhaol, yn llawn cymhelliant ac yn ymgysylltu er gwaethaf y cyfyngiadau ar chwaraeon a gweithgaredd corfforol y tymor hwn. Daeth clybiau o hyd i ffyrdd newydd a dyfeisgar i ryngweithio â'u haelodau, o wersi cymdeithasol a ffitrwydd ar Zoom, i ddigwyddiadau codi arian elusennol a heriau ffitrwydd, rydym wir wedi llwyddo i gynnal ymdeimlad o gymuned ymhlith timau chwaraeon yn Abertawe trwy'r tymor anodd ac ynysig hwn!
Mewn ymgais i ledaenu’r gwaith cadarnhaol y mae ein clybiau wedi bod yn ei wneud y tymor hwn, fe wnes i greu Cylchlythyr Chwaraeon Da UMPA sydd wedi’i rannu bob mis i’n holl aelodau Chwaraeon Abertawe. Fe wnaeth y cylchlythyr dynnu sylw at yr holl waith gwych y mae clybiau wedi bod yn ei wneud ac yn dangos i fyfyrwyr bod gweithgareddau clwb yn dal i ddigwydd!
Mae iechyd meddwl llawer o fyfyrwyr wedi cael ei roi dan straen enfawr gan y pandemig. Gyda chymorth Chwaraeon Abertawe, rydw i wedi hwyluso gweithdai wythnosol student minds ‘iechyd meddwl mewn chwaraeon’ ar gyfer ein timau chwaraeon. Fe wnaeth y gweithdy rymuso'r myfyrwyr i wella eu dealltwriaeth o iechyd meddwl a lles, cynyddu sgiliau'r cyfranogwyr i gefnogi aelodau eraill y tîm sy'n dioddef anawsterau a sefydlu diwylliant sy'n hybu iechyd meddwl cadarnhaol yn ein sefydliad.
Gyda chymorth staff Undeb y Myfyrwyr, llwyddais i drefnu’r hyfforddiant gwytnwch emosiynol ar-lein cyntaf a oedd yn agored i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, cynhaliwyd y gweithdy dros bythefnos a chefais adborth cadarnhaol.
Roedd ymgyrch Wythnos Ryngwladol y Merched yn hynod o bwysig i mi. Gyda chymorth yr athletwyr benywaidd ym Mhrifysgol Abertawe, llwyddais i gynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol “Dathlu athletwyr benywaidd Prifysgol Abertawe”, lle arddangoson ni gyflawniadau a chyngor ein hathletwyr benywaidd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Undeb ac eLyfrau ar wefan UM. Cefais gyfle anhygoel hefyd i gymryd rhan yn gweminar Diwrnod Rhyngwladol y Menywod y Brifysgol, “Cae Chwarae Teg”; lle roeddwn yn siarad am yr heriau y mae menywod mewn chwaraeon a menywod mewn gwleidyddiaeth yn eu hwynebu ar hyn o bryd, gyda phanelwyr gan gynnwys y Farwnes Tanni Grey-Thompson DBE.
Gan weithio ar y cyd â'r Undeb a'r Brifysgol, roeddwn i’n rhan o adolygiad mewnol o'n strwythur chwaraeon yn y Brifysgol a rhoddais fy adborth. Rydw i wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio a chyflawni strategaeth Chwaraeon Actif Prifysgol Abertawe, gan gydweithredu â gwahanol adrannau ar draws y sefydliad. Mae'r gwaith ar y strategaeth yn parhau a bydd yn sail i fy holl waith fel Swyddog Chwaraeon. Rydw i hefyd wedi cefnogi'r Brifysgol i ddal lle ar y panel cyfweld â rhanddeiliaid i helpu i gynrychioli lleisiau myfyrwyr a chynrychioli Undeb y Myfyrwyr wrth benodi rheolwr chwaraeon strategol newydd yn y Brifysgol.
I grynhoi, roeddwn i mewn cysylltiad parhaus â phwyllgorau chwaraeon a Chwaraeon Abertawe y tymor hwn. Cymerais ran yn etholiadau UM lle llwyddais i ennill a diolch i fyfyrwyr am fy ailethol am ail flwyddyn yn y swydd. Felly, ni fyddaf yn eich siomi a byddaf yn parhau i gyflawni fy addewidion a bod yn aelod o staff gweithgar i chi, ein myfyrwyr chwaraeon! Yn bwysicaf oll, gadewch i ni fynd yn ôl i chwarae chwaraeon y tymor nesaf!!
Alpha Evans - Ysgrifennydd Cyffredinol
Yn ystod y tymor hwn, rwyf wedi cynorthwyo gyda'r Fforwm Myfyrwyr a gyda Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb. Bues hefyd yn trafod syniadau am ddathliadau Dydd Gwyl Dewi gyda Katie, Swyddogion Polisi Iaith Gymraeg y brifysgol a thîm marchnata'r brifysgol.
Kieran Bason – Swyddog LGBT+
Y tymor hwn rydw i wedi bod yn gweithio ar ymgyrch Mis Hanes LGBTQ+ gyda rhai o'r swyddogion rhan-amser eraill yn ogystal â Georgia-Rose a Liza. Yn dilyn yr etholiadau mynychais gynhadledd rhyddhad UCM ac rydw i nawr yn helpu Georgia-Rose gydag ymgyrch Ymwybyddiaeth Traws yn cychwyn ar Ddydd Mercher 31ain gyda “diwrnod rhyngwladol o draws-welededd." Wrth wneud hyn, rydw i wedi bod yn cymryd camau bach i wella cyfleusterau toiled niwtral o ran rhyw ar draws yr adeiladau addysg ar gampws Singleton ac yn bwriadu hyrwyddo hyn yn ystod yr wythnosau/misoedd nesaf.