Your Full-Time Officers have issued the following update.
Your Students’ Union recognises that some students have been affected by recent social media activity from one of our societies.
This is extremely important to us, and we are currently engaging with all those affected by this matter as well as the wider student community and the University.
Swansea University Students' Union is committed to a safe and inclusive University and supports values of equality and diversity.
FTOs Comment
It is our role as your elected Full-Time Officers to ensure that Swansea University is inclusive to the whole student community and that the Students' Union celebrates and supports that diversity.
We understand that university is a place where healthy debate can and should take place; it is one of the things that makes Higher Education an amazing place to study and work in.
We truly recognise that all students have a right to lawfully express their own lived experiences on matters that they are passionate about, but being your Officers, we will not support derogatory comments from students towards any other students.
We support and stand with all trans people within our community and are very proud of the amazing work our Trans and Non-Binary Part-Time Officer and her predecessors have achieved since the role was created.
We are also proud of the work and the campaigns that have been led by our Women's Officers over the years, representing all students who self-define themselves as females.
We mark Trans Day of Remembrance, and Lily’s Day in memory of one of our students’. We celebrate LGBTQ+ history and look forward to celebrating LGBTQ+ History Month in February. We celebrate Pride through campaigns, and every year, elect two LGBTQ+ Officers and a Trans Non-Binary Officer. We also run an annual Women’s Week that covers the experiences of trans and cisgender women.
We will continue to platform diversity, inclusivity, and equality; as well as continuing to monitor the matter and the feelings of our students.
- Katie, Esyllt, Liza, Georgia, Carys, and Gwern.
The Students’ Union's Advice and Support Centre is available to offer help and support to all students and can be contacted via advice@swansea-union.co.uk. Your Full Time Officer Team are also available to discuss any matters affecting all aspects of the student experience at Swansea University via fto@swansea-union.co.uk.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cydnabod bod gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol diweddar o un o’n cymdeithasau wedi effeithio ar rai myfyrwyr.
Mae hyn yn hynod o bwysig i ni, ac rydym ar hyn o bryd yn ymgysylltu â phawb yr effeithir arnynt gan y mater hwn yn ogystal â'r gymuned ehangach o fyfyrwyr a'r Brifysgol.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i Brifysgol ddiogel a chynhwysol ac mae'n cefnogi gwerthoedd cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Sylw gan y Swyddogion Llawn-amser
Ein rôl ni fel eich Swyddogion Llawn-amser etholedig yw sicrhau bod Prifysgol Abertawe yn gynhwysol i'r gymuned gyfan o fyfyrwyr a bod Undeb y Myfyrwyr yn dathlu ac yn cefnogi'r amrywiaeth hwnnw.
Rydym yn deall bod prifysgol yn fan lle y gall ac y dylai dadl iach ddigwydd; mae’n un o’r pethau sy’n gwneud Addysg Uwch yn lle anhygoel i astudio a gweithio ynddo.
Rydym yn wir yn cydnabod bod gan bob myfyriwr yr hawl i fynegi eu profiadau byw eu hunain yn gyfreithlon ar faterion y maent yn frwdfrydig yn eu cylch, ond fel eich Swyddogion, ni fyddwn yn cefnogi sylwadau difrïol gan fyfyrwyr tuag at unrhyw fyfyrwyr eraill.
Rydym yn cefnogi ac yn sefyll gyda phob person traws yn ein cymuned ac yn falch iawn o’r gwaith anhygoel y mae ein Swyddog Rhan-amser Ymwybyddiaeth Traws a Di-deuaidd a’i rhagflaenwyr wedi’i gyflawni ers creu’r rôl.
Rydym hefyd yn falch o’r gwaith a’r ymgyrchoedd sydd wedi cael eu harwain gan Swyddog y Merched dros y blynyddoedd, gan gynrychioli’r holl fyfyrwyr sy’n hunan-ddiffinio fel merched.
Rydym yn nodi Diwrnod Cofio Pobl Draws a Diwrnod Lily er cof am un o’n myfyrwyr. Rydym yn dathlu hanes LGBTQ+ ac yn edrych ymlaen at ddathlu Mis Hanes LGBTQ+ ym mis Chwefror. Rydym yn dathlu Balchder trwy ymgyrchoedd, a bob blwyddyn, yn ethol dau Swyddog LGBTQ+ a Swyddog Ymwybyddiaeth Traws a Di-deuaidd. Rydym hefyd yn cynnal Wythnos Menywod flynyddol sy’n ymdrin â phrofiadau menywod trawsrywiol a chroesrywiol.
Byddwn yn parhau i roi llwyfan i amrywiaeth, cynwysoldeb a chydraddoldeb; yn ogystal â pharhau i fonitro'r mater a theimladau ein myfyrwyr.
- Katie, Esyllt, Liza, Georgia, Carys, a Gwern.
Mae Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr ar gael i gynnig cymorth a chefnogaeth i bob myfyriwr a gellir cysylltu trwy advice@swansea-union.co.uk. Mae eich Tîm o Swyddogion Llawn-amser hefyd ar gael i drafod unrhyw faterion sy'n effeithio ar bob agwedd ar brofiadau myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe drwy fto@swansea-union.co.uk.